cy Cartref Cwynion

Cwynion

start content

Dylid ymdrin â chwynion troseddol a chwynion eraill mewn perthynas â Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd neu ddeiliaid swyddi eraill yn unol â'r Ddeddf a Rheoliadau Cyrff Heddlu Lleol Etholedig (Cwynion a Chamymddwyn) 2012..

 

  • Mae gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru  gyfrifoldebau statudol o ran trin a phenderfynu ar gwynion penodol a wnaed yn erbyn Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.  Mae'r Panel wedi dirprwyo ei swyddogaethau i Swyddog Arweiniol/Ymgynghorydd Cyfreithiol y Panel yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Awdurdod Lletyol Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru) ac mae'n rhaid iddo ymgynghori â Chadeirydd, Is-gadeirydd ac un Aelod Annibynnol (os oes un ar gael) o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wrth benderfynu ar y math o gwynion a dderbyniwyd a'r strategaeth ar gyfer rheoli cwynion i'w datrys yn lleol a chwynion i'r Panel wneud penderfyniad terfynol arnynt.
  • Yn ymarferol, Swyddog Arweiniol/Ymgynghorydd Cyfreithiol y Panel yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch rheoli a datrys cwynion mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd. Ymgynghorir â Phrif Weithredwr Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (OPCC) ar y strategaeth ar gyfer penderfynu a fydd cwynion yn cael eu hystyried gan y Panel, yr OPCC neu eu cyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).
  • Dylid cyfeirio cwynion am Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd i Swyddog Arweiniol/Ymgynghorydd Cyfreithiol Heddlu Gogledd Cymru a’r Panel Troseddau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU neu e-bostiwch phth.cwynion@conwy.gov.uk .
  • Gellir hefyd anfon cwynion at Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Prif Weithredwr Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru neu'r Prif Gwnstabl. Gellir cysylltu â phob un ohonynt ar y cyfeiriad canlynol, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Glan-y-Don, Bae Colwyn, Conwy LL29 8AW neu Ffôn/ Ffacs 01492 805486.
  • Gellir anfon cwynion yn uniongyrchol at yr Independent Police Complaints Commission, PO Box 473, Sale, M33 0BW neu e-bostio enquiries@ipcc.gsi.gov.uk
  • Bydd Swyddog Arweiniol/Ymgynghorydd Cyfreithiol y Panel yn cydnabod derbyn cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith a bydd yn ceisio datrys cwyn gyffredinol nad yw'n Fater Ymddygiad neu'n Gŵyn Ddifrifol o fewn 40 diwrnod gwaith.
  • I gael rhagor o wybodaeth am y drefn gwyno, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 01492 576061 neu e-bostiwch enquiries@ipcc.gsi.gov.uk .

Nodwch nad oes gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru gylch gwaith i ddelio â chwynion yn erbyn Heddlu Gogledd Cymru. Os ydych yn dymuno gwneud cwyn am Heddlu Gogledd Cymru yna rydych angen cysylltu â:

Ditectif Uwcharolygydd
Adran Safonau Proffesiynol
Pencadlys yr Heddlu
Glan y Don
Bae Colwyn
Conwy
LL29 8AW

Rhif ffôn: 01492 805427

Ebost: ProfStandardsEnquiries@nthwales.pnn.police.uk

Gwefan: http://www.north-wales.police.uk/about-us/departments/professional-standards.aspx?lang=en-gb


Llenwch y ffurflen gwynion isod os ydych yn dymuno gwneud cwyn am Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd neu Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Ffurflen Cwyn

Gweithdrefn Cwynion

 

 

 

end content

 

 


anglesey footer logoconwy footer logodenbighshire footer logoflintshire footer logogov footer logogwynedd footer logonorth wales police footer logoopccnw footer logowrexham footer logo