Mae’r Panel Heddlu a Throsedd yn cynnwys y nifer canlynol o aelodau ar gyfer pob ardal Awdurdod Lleol:
Aelodau Etholedig
Awdurdod Lleol |
Nifer o aelodau |
Cyngor Sir Ynys Môn |
1 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
2 |
Cyngor Sir Ddinbych |
1 |
Cyngor Sir y Fflint |
2 |
Cyngor Sir y Gwynedd |
2 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
2 |
Bydd aelodau etholedig y Panel, cyn belled ag sy’n ymarferol, yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol a demograffeg cymunedol Gogledd Cymru.
Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol pob Cyngor yn penderfynu ar aelodau’r Panel o bob sir. Bydd cyfnod swydd yr Aelodau yn cael ei gytuno gan bob sir, gydag isafswm cyfnod bwriedig o un mlynedd fwrdeistrefol. Os na ellir cytuno ar Aelodaeth y Panel, yn unol â Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn enwebu aelodau awdurdodau lleol i’r Panel.
Aelodau Annibynnol Cyfetholedig
Mae Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru hefyd yn cynnwys tri aelod annibynnol cyfetholedig.
Ni all unigolyn gael ei gyfethol yn aelod o’r Panel os yw’n un o’r canlynol:
- aelod staff Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
- aelod staff sifil Heddlu Gogledd Cymru
- aelod Seneddol
- aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- aelod Senedd yr Alban
- aelod y Senedd Ewropeaidd
- aelod awdurdod lleol yn ardal Heddlu Gogledd Cymru