Swyddogaethau statudol allweddol Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yw:
- Adolygu a gwneud adroddiad neu argymhelliad ynghylch Cynllun Heddlu a Throsedd drafft Gogledd Cymru, neu ddrafftio amrywiad i Gynllun Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a fydd yn cael ei lunio a'i gyflwyno i'r Panel gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
- Adolygu a rhoi cwestiynau i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru mewn cyfarfod cyhoeddus o’r Panel, a gwneud adroddiad neu argymhelliad (yn ôl yr angen) ar y cynllun blynyddol.
- Cynnal gwrandawiad cadarnhau ac adolygiad, gwneud adroddiad neu argymhelliad (yn ôl yr angen) mewn perthynas ag uwch benodiadau arfaethedig i’w gwneud gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
- Adolygu a gwneud adroddiad ar y Prif Gwnstabl arfaethedig.
- Adolygu a gwneud adroddiad neu argymhelliad (yn ôl yr angen) ar y praesept arfaethedig.
- Adolygu a chraffu ar benderfyniadau a wneir, neu gamau y bydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â chyflawni ei swyddogaethau fel Comisiynydd (fel y’i diffinnir yn Neddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol a newidiadau dilynol i’r Ddeddf honno)
- Gwneud adroddiadau neu argymhellion i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru mewn perthynas â’r modd y mae’r Comisiynydd yn cyflawni ei swyddogaethau (fel y’i diffinnir yn Neddf yr Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol a’r newidiadau dilynol i’r Ddeddf honno)
- Cefnogi cyflawniad effeithiol swyddogaethau Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
- Cyflawni swyddogaethau cysylltiedig â chwynion am faterion camymddygiad yn unol â’r cyfrifoldebau a roddwyd i’r Panel dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol.
- Penodi Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru dros dro os bydd angen.
- Gwahardd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru dros dro rhag cyflawni ei swyddogaethau os ymddengys i'r Panel fod y Comisiynydd wedi'i gyhuddo yn y Deyrnas Unedig neu Ynys Manaw o drosedd sy'n golygu dedfryd o garchar o ddwy flynedd neu fwy.