cy Cartref

Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

start content

Cyflwynodd Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 newidiadau sylweddol yn llywodraethu ac atebolrwydd yr heddlu, yn enwedig gan ddisodli'r Awdurdodau Heddlu gyda Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd (PCC) sydd wedi'u hethol yn uniongyrchol.


Bydd atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer darpariaeth a pherfformiad gwasanaeth yr heddlu ym mhob ardal rŵan yn nwylo'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar ran yr etholaeth. Bydd y Comisiynydd yn dilyn gorchymyn yr etholaeth i lunio a siapio amcanion strategol yr ardal mewn ymgynghoriad â'r Prif Gwnstabl. Bydd y Comisiynydd yn atebol i'r etholaeth, a bydd y Prif Gwnstabl yn atebol i'r Comisiynydd.

Mae gan bob llu heddlu Banel Heddlu a Throsedd i sicrhau gwiriadau a chydbwyso rheolaidd ar berfformiad y Comisiynydd. Bydd y Comisiynydd hefyd yn gorfod ymgynghori gyda'r Panel ynglŷn â'u cynlluniau a'u cyllideb ar gyfer plismona, yn ogystal â lefel treth y cyngor a phenodi Prif Gwnstabl. 

Bydd y panel yn cynnwys deng Cynghorydd lleol a tri aelod annibynnol wedi'u cyfethol. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw 'Awdurdod Cynnal' Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ac mae'n darparu'r gwasanaethau cefnogi gofynnol er mwyn i'r Panel Heddlu a Throsedd weithredu a gwneud ei ddyletswyddau yn effeithiol.

Oherwydd y statws cyfreithiol, yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am Banelau Heddlu a Throsedd yng Nghymru.

Panel Heddlu a Throsedd: Cylch Gorchwyl (PDF, 1.21Mb)

end content

 

 


anglesey footer logoconwy footer logodenbighshire footer logoflintshire footer logogov footer logogwynedd footer logonorth wales police footer logoopccnw footer logowrexham footer logo