cy Cyfrifoldebau Praesept

Praesept

start content

Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn rhoi gwybod i’r Panel Heddlu a Throsedd am y praesept y mae’r Comisiynydd yn bwriadu ei gyflwyno am y flwyddyn ariannol.

Mae’n rhaid i’r Panel adolygu’r praesept bwriedig a llunio adroddiad yn cynnwys yr argymhellion.

Ar ôl ystyried y praesept, bydd y Panel Heddlu a Throsedd naill ai yn:

  • Cefnogi’r praesept heb amod na sylw;
  • Cefnogi’r praesept a gwneud argymhellion; neu
  • Atal y praesept bwriedig (gyda’r mwyafrif gofynnol o o leiaf dwy ran o dair o’r unigolion ar y panel pan wneir y penderfyniad).

Os yw’r Panel yn atal y praesept bwriedig, mae’n rhaid i’r adroddiad i’r Comisiynydd gynnwys datganiad bod y Panel wedi atal y praesept bwriedig gyda rhesymau. Bydd y panel yn gofyn am ymateb i’r adroddiad ac unrhyw argymhellion o’r fath.

Gwybodaeth mewn perthynas a'r gyllideb plismona a phraesept.

end content

 

 


anglesey footer logoconwy footer logodenbighshire footer logoflintshire footer logogov footer logogwynedd footer logonorth wales police footer logoopccnw footer logowrexham footer logo