cy Comisiynydd Cwestiynau i'r Comisiynydd

Cwestiynau i'r Comisiynydd

start content

Cwestiynau i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

O fis Medi 2015, bydd Panel yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru yn derbyn cwestiynau gan aelodau o'r cyhoedd neu Banel Aelodau, y gellir eu cyflwyno i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd yng nghyfarfodydd cyhoeddus y Panel Heddlu a Throsedd.

Gweler y Weithdrefn isod am fwy o wybodaeth am sut i gyflwyno cwestiwn yn y cyfarfodydd hyn.

  1. Rhaid cyflwyno'r cwestiynau i Banel yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru 10 diwrnod gwaith neu fwy cyn i’r Panel Heddlu a Throsedd gwrdd. Anfonwch neges e-bost gyda’ch cwestiwn i panel.heddlu@conwy.gov.ukneu anfonwch y cwestiwn i: Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU.
  2. Bydd cwestiynau a gyflwynwyd 10 diwrnod gwaith neu fwy cyn cyfarfod y Panel Heddlu a Throsedd yn cael eu gofyn yn y cyfarfod hwnnw, yn amodol ar y weithdrefn a nodir isod. Ni fydd unrhyw gwestiwn sy’n cael ei dderbyn lai na 10 diwrnod gwaith cyn cyfarfod y Panel yn cael eu cyflwyno i’r cyfarfod, oni bai ym marn yr Awdurdod Cynnal (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) bod y cwestiwn yn ymwneud ag eitem ar raglen cyfarfod y Panel Heddlu a Throsedd ar ôl i'r cwestiwn cael ei gyflwyno neu, ei fod yn fater brys y dylid ei dderbyn yn y cyfarfod.
  3. Er mwyn i gwestiwn gael ei dderbyn, mae’n rhaid iddo :

    Ymwneud â swyddogaethau strategol y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (gan gynnwys y Cynllun Heddlu a Throsedd) ac ni ddylai ymwneud ag unrhyw achosion ‘byw’ neu reolaeth weithredol Heddlu Gogledd Cymru.

    (Bydd unrhyw gwestiynau yn ymwneud â rheolaeth weithredol Heddlu Gogledd Cymru yn cael eu cyfeirio’n awtomatig at Swyddfa’r Prif Gwnstabl, a fydd yn ymdrechu i ymateb yn unol â'r arfer - rhoddir gwybod i’r sawl sy’n gofyn y cwestiwn/Aelod Panel ei fod wedi cael ei anfon ymlaen. Ni fydd y cwestiynau hyn felly yn cael eu derbyn yn gyhoeddus yng nghyfarfodydd y Panel Heddlu a Throsedd).

    Ni ddylai fod yn debyg iawn i gwestiwn a ofynnwyd mewn cyfarfod o fewn y chwe mis blaenorol, oni bai bod amgylchiadau wedi newid sydd yn cyfiawnhau gofyn y cwestiwn.

    Ni ddylai fod angen datgelu gwybodaeth eithriedig neu gyfrinachol.

    Ni ddylai fod yn drallodus nac yn ddifenwol.

  4. Os yw’r Awdurdod Cynnal, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Panel Heddlu a Throsedd, o’r farn nad yw’r cwestiwn yn cydymffurfio â pharagraff 2 a 3, bydd yn rhoi gwybod i'r sawl sy’n gofyn y cwestiwn, ac os yw’n briodol, yn cyfeirio'r cwestiwn at y corff cyhoeddus priodol.

    Os yw'r Awdurdod Cynnal yn ystyried nad yw’r cwestiwn yn cydymffurfio â pharagraff 2 a 3, bydd y cwestiwn yn cael ei gyfeirio at y Comisiynydd a bydd yn cael ei drin fel petai wedi cael ei fabwysiadu gan y Panel Heddlu a Throsedd a bydd yn destun y weithdrefn isod.
  5. Bydd cwestiynau a fabwysiedir gan y Panel Heddlu a Throsedd yn unol â pharagraff 4 uchod yn cael eu gofyn gan y Panel Heddlu a Throsedd i'r Comisiynydd, a rhoddir cyfrifoldeb ar Aelod y Panel i ofyn y cwestiwn, yn ôl doethineb y Cadeirydd, gan ystyried perthnasedd y cwestiwn i ardal (oedd) penodol o fewn awdurdodaeth y Panel Heddlu a Throsedd.
  6. Bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi ymateb i'r cwestiwn a fydd ar gael i'r unigolyn a ofynnodd y cwestiwn ("yr holwr") ac aelodau o Banel Heddlu a Throsedd erbyn hanner dydd y diwrnod gwaith cyn cyfarfod y Panel, ble bydd y cwestiwn yn cael ei gyflwyno.
  7. Fe ystyrir bod y cwestiwn "wedi cael ei ddarllen" ar gychwyn y cyfarfod.
  8. Dim ond Aelod Panel all ofyn cwestiwn atodol, a rhaid i’r cwestiwn atodol ymwneud â'r cwestiwn ac ateb cychwynnol a rhaid iddo fod at ddibenion o eglurhad yn unig ac nid er mwyn trafod unrhyw gwestiwn neu fater newydd. Dim ond un cwestiwn atodol a ganiateir ar gyfer pob cwestiwn ac ateb cychwynnol. Bydd cwestiynau atodol ac ymatebion yn cael eu cynnwys yng nghofnod ffurfiol y cyfarfod.
  9. Fe fydd yna achosion pan na fydd swyddogion y Comisiynydd yn gallu ymateb i gwestiwn atodol yn y cyfarfod. Mewn achosion o'r fath, bydd ymateb ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi i'r holwr gan y Comisiynydd o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl y cyfarfod, ac fe roddir copi i’r Awdurdod Cynnal.
  10. A Ni fydd cwestiwn ac ateb yn destun trafodaeth neu benderfyniad pellach yn y cyfarfod. Efallai y bydd cynnwys y cwestiwn yn destun adroddiad a thrafodaeth bellach mewn cyfarfod diweddarach o Banel Heddlu a Throsedd.
  11. Fe dderbynnir y bydd y Panel Heddlu a Throsedd yn caniatáu hyd at 10 munud ar gyfer cwestiynau gan y cyhoedd, er efallai y bydd yn dymuno ymestyn hyn dan yr amgylchiadau priodol.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content

 

 


anglesey footer logoconwy footer logodenbighshire footer logoflintshire footer logogov footer logogwynedd footer logonorth wales police footer logoopccnw footer logowrexham footer logo